Croeso i De Cymru yn Gwrando
Mae De Cymru yn Gwrando yn rhoi'r cyfle i chi ddweud wrth eich tîm plismona yn y gymdogaeth lleol am y materion sydd bwysicaf i chi, yn ogystal â chymryd rhan mewn arolygon a fydd yn ein galluogi i ddeall y pryderon sydd yn eich cymuned yn well. Hoffem glywed gennych, felly beth am i chi gofyn i'ch teulu, eich ffrindiau a'ch cydweithwyr gofrestru hefyd? Mae'r broses gofrestru am ddim, yn gyflym ac yn syml.,
Mae De Cymru yn Gwrando yn eich gwahodd i gofrestru a rhoi gwybod i ni am yr hyn sy'n peri pryder i chi yn eich cymuned leol. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau ymgysylltu lleol, cyngor ar atal troseddau, ac am weithgareddau plismona sylweddol yn eich ardal o bryd i'w gilydd.
Mae De Cymru yn Gwrando yn canolbwyntio ar eich galluogi i anfon negeseuon yn uniongyrchol at eich PCSO lleol a'ch tîm Plismona yn y Gymdogaeth. Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud ac yna byddwn yn rhannu'r camau gweithredu rydym wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'ch pryderon â chi.
Cofrestrwch Nawr
Chwiliwch am eich Tîm Plismona Bro lleol
Dewch o hyd i’ch Tîm Plismona Bro lleol a gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy nodi cyfeiriad stryd neu god post isod:
Sylwch nad yw'r gwasanaeth hwn ar gyfer riportio troseddau neu ddigwyddiadau - i wneud adroddiad gwnewch hyn yma - Hafan | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Diweddariadau De Cymru Diweddaraf
Lladradau cerbydau yn eich ardal
Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn nifer uchel o adroddiadau am ladradau cerbydau ledled Caerdydd a Bro Morganwg dros y mis diwethaf. Rydym yn gweld troseddwyr yn targedu cerbydau mynediad di-allwedd, yn enwedig modelau Nissan a Ford . Gall troseddwyr ...
Lladradau cerbydau
Lladradau cerbydau yn eich ardal Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn nifer uchel o adroddiadau am ladradau cerbydau ledled Caerdydd a Bro Morganwg dros y mis diwethaf. Rydym yn gweld troseddwyr yn targedu cerbydau mynediad di-allwedd, yn enwedig modela...
Lladradau Cerbydau
Lladradau cerbydau yn eich ardal Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn nifer uchel o adroddiadau am ladradau cerbydau ledled Caerdydd a Bro Morganwg dros y mis diwethaf. Rydym yn gweld troseddwyr yn targedu cerbydau mynediad di-allwedd, yn enwedig modela...
Cerbyd wedi'i atafaelu - Adran 59
Neithiwr, gwelodd SCCH Saltmarsh a Jones gerbyd yn gyrru trwy Ganol Tref Pont-y-clun mewn modd diofal a gwrthgymdeithasol. Cynhaliwyd ymholiadau i'r cerbyd, a heno, atafaelwyd y cerbyd dan sylw o dan Adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu, a c...
Cliciwch yma i weld mwy o ddiweddariadau


