Shwmae,
Ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich swydd? Gall rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) fod i chi.
Rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yw bod yn ddolen gyswllt hollbwysig rhwng y gymuned a'r heddlu er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu fod yn heriol, ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth, ystyr a chyffro.
Byddwch yn cefnogi plismona rheng flaen trwy ymgymryd â thasgau fel stopio goryrru y tu allan i'n hysgolion, riportio fandaliaeth, neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol – bydd eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gadw De Cymru'n ddiogel.
Y person
Fel PCSO, byddwch yn gweithio yng nghanol ein cymunedau gan ddarparu presenoldeb mewn lifrai sy'n weladwy, yn hygyrch ac yn hawdd mynd atoch. Mae'n hanfodol eich bod yn gallu dangos y rhinweddau canlynol:
• Sgiliau cyfathrebu da: Mae'n hanfodol eich bod yn gallu gwrando ar anghenion a phryderon pobl eraill
• Y gallu i feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol: Fel PCSO, bydd angen i chi fynd ati'n rhagweithiol i feithrin ymddiriedaeth a hyder â chydweithwyr a'r gymuned
• Y gallu i weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm: Yn aml, byddwch yn gweithio'n annibynnol fel rhan o'ch gwaith fel PCSO, ond mae'n bwysig eich bod yn gallu cyfrannu'n effeithiol at weithgareddau yn y gymuned leol ehangach
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.
Ar gyfer unrhyw unigolyn sy'n uniaethu fel Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol neu Unrhyw Gefndir Gwyn Arall, bydd digwyddiad uwchsgilio yn cael ei gynnal ar noson 27 Ionawr ac 20 Chwefror ym Mhencadlys HDC. Os oydych yn awyddus i fynd i'r naill ddigwyddiad neu'r llall, cofrestrwch gan ddefnyddio'r dolenni isod. Sicrhewch eich bod eisoes wedi cofrestru ar gyfer rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac wedi dewis HOFFWN i dderbyn cymorth Gweithredu Cadarnhaol.
I wneud cais am rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, cliciwch yma:
https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-5/brand-3/xf-80b6d5454b06/spa-1/candidate/so/pm/6/pl/15/opp/7600-POLICE-COMMUNITY-SUPPORT-OFFICERS-PCSO-Recruitment/en-GB_SWP_Listens
Am ragor o wybodaeth am y rôl hon, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, e-bostiwch PositiveAction@south-wales.police.uk
|