|
||||
|
||||
|
||||
Ymddygiad GwrthgymdeithasolHelo Mae Heddlu De Cymru yn gweithio i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Melyn Mynach, Gorseinon. Mae Tîm Cymdogaeth Gorseinon yn ymwybodol o achosion diweddar o ddifrod sydd wedi digwydd ym Melyn Mynach. Er mwyn rhoi sicrwydd i drigolion ac atal troseddwyr, bydd patrolau ychwanegol yn cael eu cynnal gyda phartneriaid yn y lleoliad. Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y difrod hwn i roi gwybod i Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yr Heddlu. Cofiwch..Nodwch bob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y gallwch roi gwybod i ni neu un o'n partneriaid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adrodd i'r sefydliad cywir. (Mwy o wybodaeth yma: Yr heddlu neu bartneriaid: Gyda phwy y dylwn gysylltu? | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) Os ydych wedi rhoi gwybod i’r sefydliad cywir am ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ac nad ydych wedi cael ymateb digonol, gallwch ofyn am adolygiad achos YGG i ddod o hyd i ateb: Sbardun Cymunedol 2020 – Adolygiad Achos YGG Gallwch nawr riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n digwydd yn eich cymdogaeth i ni drwy ein system riportio ar-lein: Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) Ar-lein: www.south-wales.police.uk E-bost: swp101@south-wales.police.uk Ffoniwch: 101 (am ddim) Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser. A oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nad oes angen ymateb brys arnoch? Gallwch wneud adroddiad ar-lein trwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom trwy Live Chat, neu ffonio 101. Mewn argyfwng deialwch 999 bob amser. DiolchTîm Cymdogaeth Gorseinon
| ||||
Atodiadau | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|