{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Neges Diogelwch Dwr


Noswaith dda,

Rydym yn gweithio'n galed i gadw aelodau'r cyhoedd yn ddiogel ym Mhontardawe, Trebanos a'r ardaloedd cyfagos.

Oherwydd bod y tywydd braf yn agosáu, byddwch yn ofalus o ran diogelwch yn y dŵr. Gall yr afon a'r mannau nofio lleol ymddangos yn ddeniadol, fodd bynnag, gall y sefyllfa fynd yn beryglus iawn yn gyflym iawn.

Byddwn yn cynnal patrolau mannau problemus yn y lleoliadau hysbys, fodd bynnag, peidiwch â mynd i mewn i'r afonydd ac os ydych chi'n cerdded gerllaw, arhoswch yn glir o lannau'r afon.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch dŵr, neu faterion diogelwch cymunedol eraill, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol neu roi gwybod i ni am hyn ar-lein. Mewn argyfwng, os ydych chi neu'ch eiddo mewn perygl, neu os yw trosedd yn digwydd, ffoniwch 999.

Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi?

Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Jessica Ford
(South Wales Police, PCSO, Pontardawe)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials