|
||||
|
||||
|
||||
Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau bod pobl sy'n nodi eu hunain fel gweithwyr elusennol wedi bod yn curo ar ddrysau yn ardal Treforys. Mae elusen leol wedi datgan nad oes ganddyn nhw neb yn curo ar ddrysau ac mae'n annhebygol y bydd pobl yn gofyn am fanylion eich banc wrth gasglu ar gyfer elusennau ar garreg y drws. Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i gynnal patrolau Gwelededd Uchel ac yn delio ag unrhyw adroddiadau a wneir. Diolch yn fawr. | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|