|
||||
|
||||
|
||||
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly… Ymunwch â Ni Rydym nawr ar agor i geisiadau am rôl Swyddog Heddlu a byddwn yn parhau ar agor tan 5 Awst 2025. Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd gyda'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel. Rydym am fod y gorau wrth ddeall ac ymateb i anghenion ein cymuned. I wneud hyn mae angen yr ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd arnom i ddod yn rhan o'n teulu plismona. Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am sgil, tosturi, arweinyddiaeth, menter, ac awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ar draws ardal o tua 800 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd ond lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath - ac mae'n cynnig amrywiaeth o yrfaoedd boddhaol a chyffrous. Gall y rôl fod yn heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn ac yn ddyfeisgar, ond rydym ni yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod wedi ymrwymo i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd o fewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei hail ac rydym ni'n chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus. Mae mwy o opsiynau nag erioed i ddod yn Swyddog Heddlu yn #TeamSWP bellach: Pa lwybr fyddwch chi'n ei ddewis? Prentisiaeth Gradd Cwnstabl Heddlu (PCDA) Prentisiaeth gradd broffesiynol 3 blynedd yw hon. Ar ôl ei chwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn cyflawni Gradd mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol; mae'r llwybr hwn yn golygu bod gennych y cyfle i ennill wrth ddysgu a chyflawni gradd. I wneud cais am y PCDA, rhaid i chi fod wedi cyflawni cymhwyster Lefel 3 (sy'n 2 Lefel A neu gyfwerth). Os nad oes gennych gymhwyster lefel 3 eisoes, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd ag asesiad ar-lein mewn Saesneg a Mathemateg, ac os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i gam nesaf y broses ymgeisio. Os byddwch yn llwyddiannus ym mhob cam o'ch cais, byddwch yn dechrau ar ein llwybr PCDA. Fel Prentis, bydd angen i chi fod wedi cyflawni TGAU Gradd AC mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster Lefel 2 Cyfwerth. Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, bydd angen i chi gwblhau'r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod eich hyfforddiant i gyflawni gofynion y Cynllun Prentisiaeth. Bydd Heddlu De Cymru yn talu'r holl ffioedd cwrs sy'n ymwneud â'r llwybr mynediad hwn. Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd (DHEP): Mae'r Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd ar gyfer y rhai sydd eisoes â gradd mewn unrhyw faes pwnc ond sydd am ymuno â'r heddlu. Mae hon yn rhaglen ddwy flynedd sy'n cyfuno dysgu ymarferol ar y swydd a chymhwysedd gweithredol â dysgu academaidd. Ar ôl cwblhau, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cyflawni Diploma mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol. Mae'r heddlu'n talu'r holl ffioedd cwrs sy'n ymwneud â'r llwybr mynediad hwn. Am ragor o wybodaeth am y rôl ac i wneud cais , dilynwch y ddolen isod: Ymgyrch Cwnstabl Myfyrwyr Heddlu De Cymru Gorffennaf 2025 - Swyddi Heddlu Cymru Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar PositiveAction@south-wales.police.uk | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|