{SITE-NAME} Logo
Heddlu De Cymru
Message Type Icon

Mae Heddlu De Cymru yn recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol.


Shwmae Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol (Swyddogion Heddlu Gwirfoddol) Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gallwch chwarae rôl hanfodol wrth ein helpu i gyflawni'r blaenoriaethau plismona ar gyfer De Cymru. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn brofiad gwerthfawr a phleserus, lle mae gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu hangen a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u datblygu. Swyddogion â gwarant yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sy'n ymgymryd â gwaith gwerthfawr ac yn creu cysylltiad hanfodol rhwng yr heddlu arferol a'u cymunedau lleol. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn amddiffyn pobl De Cymru ac yn rhoi sicrwydd iddynt ochr yn ochr â swyddogion arferol. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol hefyd yn cario'r un cyfarpar, yn gwisgo'r un lifrai, yn meddu ar yr un pwerau, ac yn ymateb i'r un galwadau â Swyddogion arferol yr Heddlu. Bydd disgwyl i chi ymrwymo i isafswm o 16 awr o wasanaeth y mis ac yn ystod eich dwy flynedd gyntaf o wasanaeth, bydd yn rhaid i chi gwblhau pob elfen o'ch hyfforddiant a chyflawni statws patrolio annibynnol. Mae Heddlu De Cymru yn hysbysebu ar gyfer rolau Cwnstabl Gwirfoddol. Bydd yr broses gwneud cais yn agor ar 5 o Mehefin 2025 a bydd yr hysbyseb yn aros ar agor tan 30 Mehefin 2025. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: South Wales Police Special Constable Campaign June 2025 - Police Jobs Wales https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-5/brand-3/spa-1/candidate/so/pm/6/pl/15/opp/8166-South-Wales-Police-Special-Constable-Campaign-June-2025/en-GB Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflawni perfformiad o ansawdd uchel ar gyfer ein cymunedau amrywiol. I gyflawni uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â HR-RECRUITMENT@south-wales.police.uk neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, e-bostiwch PositiveAction@south-wales.police.uk.


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Sarah Lewis
(South Wales Police, Administrator, South Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials