#NinGweld
Shwmae,
Boed hynny yn y gymuned neu wrth ymateb i ddigwyddiadau, ymchwilio, cysylltu â dioddefwyr neu ddelio ag achosion llys, rydym yn gweld cam-drin domestig.
Rydym am helpu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched.
Yn ôl yn yr haf, gwnaethom siarad â dioddefwyr cam-drin domestig, er mwyn iddynt ddweud wrthym am eu straeon, ac er mwyn annog eraill i gysylltu â ni. Mae ein swyddogion am wneud yr un peth.
Mae swyddogion o adrannau gwahanol wedi cymryd rhan yng ngham newydd ein hymgyrch ar drais yn erbyn menywod a merched i dynnu sylw at ein rôl wrth ddelio ag achosion o gam-drin domestig, straeon am weithio ar achosion o drais domestig, a'r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.
Gallwch wylio a darllen mwy yma: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/see-me/nin-gweld/
Y cymorth sydd ar gael: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/see-me/
|