|
||||
|
||||
|
||||
Gweithredu CadarnhaolNEGES DDWYIEITHOG Helo Rydym wedi bod yn gweithio'n galed yn Rock Terrace a Buarth y Capel yn targedu beiciau modur oddi ar y ffordd. Yn ddiweddar mae swyddogion wedi rhoi 2 atgyfeiriad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i ddau o yrwyr y beiciau modur oddi ar y ffordd sy'n achosi problemau ym Muarth y Capel a Rock Terrace. Os gwelwch chi fwy o feiciau modur oddi ar y ffordd yn yr ardal, cofiwch roi gwybod i 101. Bydd patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal yn yr ardal i fonitro'r mater hwn.
Diolch am eich cymorth. Dim ond drwy gydweithio rhwng yr heddlu a'r cyhoedd y gallwn atal a chanfod troseddau. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond does dim angen ymateb brys arnoch chi? Gallwch wneud adroddiad ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk , anfon neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. | ||||
Atodiadau | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|
|