Shwmae,
Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod, ddiddordeb Heddlue De Cymru mewn ymuno fel Rheolwr Rhaglen Gwelliant Parhaus a Galw, byddwn yn derbyn ceisiadau o'r 22/07/2025.
Mae Heddlu De Cymru yn sefydliad sydd â gweithlu ymrwymedig a balch sy'n rhannu'r un weledigaeth, sef atal a chanfod troseddau; amddiffyn, gwasanaethu, a rhoi sicrwydd i'n cymunedau; a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i ddioddefwyr. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ledled ardal o tua 880 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Ein gweledigaeth yw bod yn wasanaeth heddlu neilltuol sy'n hygyrch, yn ddibynadwy, a bod ein cymunedau yn ymddiried ynom.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at y broses barhaus o ddatblygu gweithgareddau Gwelliant Parhaus a Galw a Galluogrwydd ar gyfer yr Heddlu, sy'n canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn effeithlon ac yn effeithiol a bod gennym y nifer cywir o bobl gyda'r sgiliau cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
Byddwch wedi eich lleoli o fewn Gwasanaethau Corfforaethol, yn gweithio fel arbenigwr pwnc ac yn rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar faterion amrywiol a chymhleth a uwchgyfeirir, sy'n berthnasol i faes gwaith ar lefel strategol a thactegol.
Y Rôl:
• Asesu gofynion cwsmeriaid a rhoi digon o gymorth, cyngor ac arweiniad
• Datblygu, cynnig, a rhoi systemau a phrosesau Rheoli Gwelliant Parhaus a Galw priodol ar waith
• Trefnu a rheoli'r gwaith beunyddiol o ddarparu gweithgareddau Gwelliant Parhaus a Galw a Galluogrwydd er mwyn llywio penderfyniadau strategol a gweithredol
• Ymgysylltu'n effeithiol â chydweithwyr mewnol ar draws amrywiaeth o adrannau cymorth er mwyn sicrhau dull ar y cyd o Welliant Parhaus a Rheoli Galw
Eich Profiad:
• Rhaid bod gennych brofiad o systemau modelu galw a rheoli adnoddau (e.e. meddalwedd Process Evolution)
• Rhaid bod gennych wybodaeth fanwl am ddefnyddio cyfarpar a thechnegau Gwelliant Parhaus i gyflawni newid
• Rhaid i chi feddu ar y gallu i reoli sawl darn o waith o dan raglen newid.
• Rhaid i chi feddu ar y gallu i ddadansoddi gwybodaeth ansoddol a meintiol
• Rhaid bod gennych brofiad o gynghori, negodi a dylanwadu ar lefel uwch
• Rhaid bod gennych brofiad o gyflawni buddiannau
Dilynwch y ddolen isod i'n gwefan i wneud cais:
Rheolwr Rhaglen Gwelliant Parhaus a Galw -
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd ac arwyddocâd cael gweithlu amrywiol er mwyn helpu i ehangu ein gallu a'n capasiti i gyflwyno perfformiad o ansawdd uchel i'n cymunedau amrywiol. I gyrraedd uchelgais yr Heddlu o fod y gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau, mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol ar gael i ateb unrhyw ymholiadau ac i roi cymorth i unrhyw ymgeisydd o gymunedau ethnig lleiafrifol.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu os hoffech drafod Gweithredu Cadarnhaol, anfonwch e-bost at PositiveAction@south-wales.police.uk
|