|   | ||||
|  | ||||
| 
 | ||||
| Ymgyrch Plismona Cymdogaeth yn gweld dros 100 o feiciau trydan a sgwteri anghyfreithlon wedi'u hatafaelu yng Nghaerdydd | ||||
| Helo {FIRST_NAME} Mae ymgyrch dan arweiniad Heddlu De Cymru wedi gweld dros 100 o feiciau trydan anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu o strydoedd Caerdydd, gan wneud canol ein trefi yn fwy diogel yr haf hwn. Yn dilyn pryderon yn y gymuned a gwybodaeth leol, gwnaeth y Tîm Plismona Cymdogaeth (NPT) lleol gais am gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â'r mater yn Canton a Cathays, a'i dderbyn. Roedd gan yr ymgyrch amlasiantaeth rhwng yr heddlu, Cyngor Caerdydd, a Mewnfudo, wyth ymgyrch wedi'u lleoli drwy gydol mis Awst, gyda'r nod o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. At ei gilydd, mae 135 o gerbydau MPV anghyfreithlon wedi'u hatafaelu a byddant yn cael eu dinistrio'n ddiogel gan Gyngor Caerdydd. Ar gyfartaledd, addaswyd y beiciau a atafaelwyd i gyrraedd cyflymderau rhwng 25-70mya – y terfyn cyfreithiol yw 15.5mya. 
 Roedd hwn yn ymgyrch amlasiantaeth rhwng yr heddlu, Cyngor Caerdydd, a Mewnfudo, ac roedd wyth ymgyrch wedi'u lleoli drwy gydol mis Awst. Gwelodd gweithgaredd yr ymgyrch rai arestiadau hefyd, gan gynnwys: Dywedodd yr Arolygydd Cymdogaeth Tim Ursell:  “Rydym yn ymwybodol o’r perygl sylweddol y mae’r beiciau trydan anghyfreithlon hyn yn ei achosi i’n cymuned, a’r effaith y maent wedi’i chael ar fusnesau a thrigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, Aelod Cabinet dros Wastraff, Golygfa Stryd a Gwasanaethau Amgylcheddol yng Nghyngor Caerdydd:  “Fel Cyngor rydym yn annog pobl yn weithredol i feicio ond yr hyn na allwn ei ganiatáu yw pobl yn gyrru beiciau trydan anghyfreithlon, wedi'u haddasu mewn parciau ac ardaloedd cerddwyr gan achosi perygl i eraill. 
 | ||||
| Reply to this message | ||||
| 
 | 
| 
 | 








