|   | ||
|  | ||
| 
 | ||
| Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Beiciau oddi ar y ffordd | ||
| Rydym yn ymwybodol o adroddiadau parhaus am feiciau oddi ar y ffordd yn cael eu reidio'n wrthgymdeithasol yng nghaeau chwarae Mynydd Newydd ym Mhenlan. Mae'r ymddygiad hwn yn beryglus - mae'n rhoi aelodau'r cyhoedd mewn perygl, yn enwedig y rhai sy'n cerdded yn yr ardal. Mae hefyd yn achosi niwed i'r amgylchedd a thiroedd lleol, ac yn peri risg ddifrifol o anaf i'r beicwyr eu hunain ac eraill gerllaw. Rydym yn gweithio i nodi pwy yw'r gyrwyr hyn, ond mae angen eich help arnom. Os gwelwch chi feiciau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio'n anghyfreithlon, neu os ydych chi'n gwybod pwy sy'n gyfrifol, rhowch wybod i ni drwy ffôn 101, tab adroddiadau gwefan Heddlu De Cymru neu Crimestoppers. Mae pob adroddiad yn ein helpu i gymryd camau i gadw ein cymuned yn ddiogel. 
 | ||
| Reply to this message | ||
| 
 | 
| 
 | 







