|   | ||
|  | ||
| 
 | ||
| Ysbyty Cwm Cynon | ||
| Mae Tîm Plismona Cymdogion Aberpennar wedi cynnal patrolau yn Ysbyty Cwm Cynon dros yr wythnosau diwethaf i fynd i'r afael â phryderon ynghylch achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n digwydd cyn ac ar ôl ysgol. Er bod modd cael mynediad at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus drwy dir yr ysbyty, mae'n bwysig nad yw disgyblion yn mynd i mewn i dir yr ysbyty nac yn oedi ynddo a'u bod yn mynd yn syth i'r ysgol ac yn ôl. Bydd swyddogion cymunedol yn delio ag unrhyw unigolion a welir yn achosi problemau. Atgoffwch eich plant na fydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef, yn enwedig mewn lleoliad lle mae llawer o unigolion agored i niwed yn derbyn triniaeth feddygol. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth helpu i sicrhau bod yr ysbyty yn parhau i fod yn lle diogel i'r rhai sydd ei angen. Cynon NPT. | ||
| Reply to this message | ||
| 
 | 
| 
 | 






