| Mae amser o hyd i wneud cais i fod yn Wirfoddolwr Cymorth yr Heddlu gyda Heddlu De Cymru yn ardal Caerdydd a Bro Morganwg.
 Fel Gwirfoddolwr Cymorth yr Heddlu byddwch yn ymwneud â'r canlynol, a llawer mwy:
 
 > Bws Diogelwch Caerdydd
 > Digwyddiadau marcio beiciau
 > Cefnogi nifer o adrannau gan gynnwys Timau Diogelwch Cymunedol a Phlismona Cymdogaeth
 > Gweithio ochr yn ochr â swyddogion a SCCH mewn digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau mawr eraill a gynhelir yng Nghaerdydd
 > Mynychu sesiynau hyfforddi gan gynnwys rheoli gwrthdaro, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth cyntaf
 > Cefnogi Tîm Cyswllt y Brifysgol yn ystod cyfnod y Glasfyfyrwyr
 
 I wneud cais rhaid i chi:
 
 > Bod yn 18+
 > Wedi bod yn breswylydd yn y DU am fwy na blwyddyn
 
 Mae ceisiadau ar agor i'r gymuned myfyrwyr a'r cyhoedd yn ardal Caerdydd a'r Fro.
 
 Ymrwymiadau:
 
 > Disgwylir i Fyfyrwyr Gwirfoddol gwblhau 12 awr y mis (yn ystod y flwyddyn academaidd)
 > Disgwylir i Wirfoddolwyr Cymunedol gwblhau 8 awr y mis (yn ystod y flwyddyn galendr)
 
 I ofyn am becyn cais, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb sydd i'w chael yma -
  https://forms.office.com/e/UjFm4B0fq1
 Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli gyda ni anfonwch e-bost at: policesupportvolunteers@south-wales.police.uk
 
 **Mae ceisiadau'n cau am 10am ddydd Sul 9fed Tachwedd 2025**
 |