|
||
|
|
||
|
||
|
Cyflwyniad PCSO |
||
|
Shwmae {FIRST_NAME}
Fy enw i yw Amber a fi yw Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Ravenhill. Efallai y bydd rhai ohonoch yn fy adnabod o fod yn Swyddog Cymunedol Heddlu yn fy nhiriogaeth flaenorol Blaenymaes.
Yn gyntaf, diolch i chi am ymuno â De Cymru yn Gwrando. Os nad ydych eisoes wedi gwneud, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn treulio 5 munud yn cwblhau'r arolwg hwn a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddweud wrthym am y materion sydd bwysicaf i chi.
Roeddwn eisiau cymryd y cyfle hwn i gyflwyno fy hun, gan mai fi yw Swyddog Cymorth Cymunedol lleol yr Heddlu ar gyfer yr ardal rydych yn byw ynddi.
Rwy'n edrych ymlaen at rannu gwybodaeth am yr hyn beth rydym wrthi'n ei wneud fel Tîm Plismona yn y Gymdogaeth â chi i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i chi, a pheidiwch ag anghofio, prif nod De Cymru yn Gwrando yw sicrhau cyfathrebu dwy ffordd lle gallwch chi ateb unrhyw neges y byddaf wedi ei hanfon atoch, a derbyn ymateb yn uniongyrchol gan y tîm.
Cofiwch, nid adnodd i roi gwybod am droseddau yw De Cymru yn Gwrando. Os byddwch chi neu eich eiddo yn wynebu risg, neu os bydd trosedd yn digwydd, ffoniwch 999 mewn argyfwng. Oes angen i chi siarad â'r heddlu ond nid oes angen ymateb brys arnoch? Gallwch roi gwybod am fater ar-lein drwy ein gwefan https://www.south-wales.police.uk, anfonwch neges breifat atom drwy Sgwrs Fyw, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







