I'n cyd-ysbrydion ac ellyllon. Mae bron yn dymor y bwganod; ydych chi wedi addurno'n barod?
Rydym am i bawb deimlo ac aros yn ddiogel, ond cofiwch #NidYwnHwylIBawb.
Rydym yn cydnabod na fydd rhai pobl am gymryd rhan mewn gweithgareddau Calan Gaeaf ac na fyddant am i bobl fod yn curo ar eu drws drwy'r nos.
Er mwyn helpu pobl nad ydynt am gymryd rhan mewn gweithgareddau Calan Gaeaf, rydym wedi creu arwydd 'Neb i alw yma os gwelwch yn dda' sy'n gofyn i bobl fwynhau eu noson heb darfu ar eu noson nhw.
Os byddwch yn gweld yr arwydd hwn, peidiwch ag ymweld â'r tŷ.