|
||
|
|
||
|
||
|
Cost y Nadolig - Cyngor Atal Troseddau |
||
|
Dyma'r amser mwyaf rhyfeddol o'r flwyddyn ond hefyd yr un prysuraf i lawer ohonom, ac fel bob amser, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo'n ddiogel drwy gydol cyfnod yr ŵyl. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu cyngor ac arweiniad i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel - ond hefyd i dynnu sylw at waith ymroddedig ein timau ar draws ein hardal heddlu. Cymerwch olwg ar ein cyngor atal troseddau sydd ynghlwm. Er bod y galw’n cynyddu yn ystod y cyfnod Nadoligaidd, bydd ein swyddogion a’n staff, fel y maent yn ei wneud bob blwyddyn, yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau ar draws y cyfnod cyn ac yn ystod cyfnod y Nadolig i helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn Ne Cymru yn ddiogel. Mae gweithrediadau ac adnoddau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith ledled De Cymru i flaenoriaethu diogelwch pawb yn ein cymunedau. | ||
Atodiadau | ||
Reply to this message | ||
|
|






