|
Mae eich Tîm Plismona Cymdogaeth lleol yn parhau i fod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r problemau parhaus ynghylch defnydd gwrthgymdeithasol beiciau modur oddi ar y ffordd yn Nhrelái a Chaerau.
Tra roeddent ar batrôl y prynhawn yma, mae swyddogion o Dîm Plismona Cymdogaeth Trelái a Chaerau wedi gweld beic modur sgramblwr oddi ar y ffordd yn cael ei reidio mewn modd gwrthgymdeithasol yng nghyffiniau Heol Pantyderi, Caerau.
Yn anffodus i'r beicwyr, maent wedi stopio'r beic wrth geisio dianc rhag swyddogion, a wnaethant atal y beicwyr yn gyflym ac yna atafaelu'r beic, a fydd bellach yn cael ei falu.
Anogir trigolion i roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol i'ch swyddogion lleol drwy 101 neu fel arall gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw ar-lein. |