|
||
|
|
||
|
||
|
Mae bwrgler cyson a dargedodd nifer o gyfeiriadau yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i garcharu.
Targedodd Lewis Wood, 35 oed, o Gasnewydd, gartrefi yn ardaloedd Baglan, Port Talbot yn bennaf ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd. Mae wedi cael ei garcharu am dros bum mlynedd ar ôl pledio'n euog i'r canlynol: deg achos o ymgais i gyflawni bwrgleriaeth ar annedd gyda'r bwriad o ddwyn; tri achos o gyflawni bwrgleriaeth ar annedd gyda'r bwriad o ddwyn; tri achos o ymosod drwy daro; dwyn cerbyd modur; gyrru tra roedd wedi'i wahardd; a defnyddio cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti. | ||
Reply to this message | ||
|
|






