|
||
|
|
||
|
||
|
Mae Gaeaf Gweithredu yn gweld dros 800 o arestiadau a gostyngiad mewn troseddau ar draws y bwrdd ar gyfer cymunedau lleol. |
||
|
Y gaeaf hwn mae cynnydd wedi bod mewn gweithgaredd plismona cymdogaeth yn ein cymunedau i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel, fel rhan o'r Gaeaf Gweithredu. O ganlyniad i ymdrechion ar draws yr heddlu, mae data* yn dangos gostyngiad o 50% mewn lladrad beiciau a gostyngiad o 48% mewn byrgleriaeth fasnachol o'i gymharu â'r llynedd. Yn debyg iawn i'r cynnydd yn yr haf , gwelodd y Gaeaf Gweithredu feysydd allweddol yn cael eu nodi ar draws yr heddlu, sef: Barry Llanrhymni Roath Canton Canol Dinas Caerdydd Aberdâr Pen-y-bont ar Ogwr Merthyr Pontypridd Canol Dinas Abertawe Castell-nedd Gwelodd y Gaeaf Gweithredu hefyd ostyngiad o 38% mewn byrgleriaethau mewn cartrefi, 600 awr a ddarparwyd gan yr Heddlu Arbennig, a gostyngiad o 14% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Sicrhawyd pedwar Gorchymyn Ymddygiad Troseddol hefyd i atal pobl rhag cael cyfle i aildroseddu, fel mynd i mewn i rai ardaloedd, gyda chanlyniadau os ydynt yn gwneud hynny. Dywedodd y Prif Arolygydd Tony Williams: “Gwelodd yr hwb hwn mewn gweithgaredd ni’n canolbwyntio ar faterion allweddol a effeithiodd ar gymunedau a’r busnesau ynddynt yn ystod y gaeaf. Gwelodd ymdrechion y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad lawer o ladron a byrgleriaid yn cael eu dwyn i gyfrif ac yn treulio eu Nadolig dan glo. “Rwy’n annog trigolion a pherchnogion busnesau i ymgysylltu â’u timau lleol, dod o hyd i’w swyddog lleol penodol y gallant gysylltu ag ef gydag unrhyw bryderon, a dweud eu dweud. Dim ond oherwydd bod y ‘Gaeaf Gweithredu’ wedi dod i ben, nid yw’n golygu y bydd ein hymdrechion i gadw ein cymunedau’n ddiogel yn dod i ben.” *Mae'r holl ddata wedi'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd (1 Rhagfyr 2024 – 30 Ionawr 2025).
| ||
Reply to this message | ||
|
|







