|
||
|
|
||
|
||
|
ASB | Llaneirwg |
||
|
Mae swyddogion yn Llaneirwg wedi cael pwerau ychwanegol i atal cynulliadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn digwyddiad yn yr ardal siopa. Galwyd yr heddlu i faes parcio Tesco tua 5.30pm ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 10) i adroddiad o ddifrod troseddol a cherrig yn cael eu taflu at geir. Roedd grŵp o tua 25 o bobl ifanc wedi ymgynnull yn yr ardal, ac roedd rhai ohonynt yn gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach. Dywedodd y Rhingyll Louise Tew o Heddlu De Cymru: “Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â’u pobl ifanc ynglŷn â pheidio â chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwiriwch hefyd gyda phwy maen nhw’n cymdeithasu, beth maen nhw’n ei wneud a ble maen nhw.” Mae'r gorchymyn, a roddir o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, mewn grym o 3pm a 10pm heddiw (dydd Mercher, Mawrth 11). O dan Adran 35 o'r ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddu, braw neu ofid i adael yr ardal fel y dangosir yn y map. Bydd gan swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ychwanegodd y Rhingyll Tew: “Mae’r gorchymyn gwasgaru ar waith fel mesur ataliol. Ni fydd swyddogion yn petruso cyn gorfodi’r pwerau ychwanegol a roddir iddynt i gadw’r gymuned yn ddiogel.” Hoffem gydnabod y gefnogaeth a roddwyd i swyddogion gan rai aelodau o'r cyhoedd yn ystod digwyddiad ddoe. Mae gan Heddlu De Cymru ddull dim goddefgarwch tuag at ymddygiad gwrthgymdeithasol a dim ond un enghraifft o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yw'r gorchymyn gwasgaru hwn.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







