|
||
|
|
||
|
||
|
Masnachwyr Twyllodrus |
||
|
Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr adroddiadau am fasnachwyr twyllodrus yn yr ardal.
1. Gwiriwch nhw i gyd a gwnewch alwad - Os ydych chi'n credu bod y person neu'r bobl wrth eich drws ffrynt yno at ddiben dilys, gofynnwch am ddogfen adnabod ffotograffig a gwiriwch y manylion gyda'r cwmni maen nhw'n ei gynrychioli. 2. Cymerwch eich amser - Peidiwch â theimlo eich bod yn cael eich gwthio na'ch rhuthro i gytuno i brynu gwasanaeth neu nwyddau ar garreg eich drws, a pheidiwch â thalu am waith cyn iddo gael ei gwblhau. 3. Rhowch wybod amdano! - Felly, os ydych chi'n credu eich bod chi wedi cael eich twyllo neu os yw galwr drws wedi ymddwyn yn amheus, cysylltwch â'r Heddlu drwy ffonio 101 i roi gwybod am eich pryderon. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng. | ||
Reply to this message | ||
|
|






