|
||
|
|
||
|
||
|
Diweddariad |
||
|
Mae'r heddlu'n ymwybodol o grŵp sydd ar hyn o bryd yn gwersylla ar y meysydd chwarae yn Heol Castell Coety, Litchard. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i fynd i'r afael â'r sefyllfa a lleihau'r aflonyddwch i'r gymuned leol. Bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cynnal patrolau tawelu meddwl rheolaidd yn yr ardal, ac anogir trigolion i siarad â swyddogion os oes ganddynt unrhyw bryderon. Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gellir gwneud adroddiadau ar-lein neu drwy sgwrs fyw drwy dudalen gyswllt Heddlu De Cymru.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







