|
||
|
|
||
|
||
|
Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd a gynhaliwyd ar Heol Fach / Curwen Terrace |
||
|
Ddydd Gwener 10 Gorffennaf rhwng 09.45 a 12.45, cynhaliodd eich tîm plismona cymdogaeth lleol ynghyd â Gwasanaeth Tân De Cymru a Diogelwch Ffyrdd Cymru ymarfer diogelwch ffyrdd ar Heol Fach a Theras Curwen, Gogledd Corneli. Cafodd pobl a oedd yn cael eu monitro yn gyrru uwchlaw'r terfyn cyflymder neu heb wisgo gwregys diogelwch eu hatal gan yr heddlu. Rhoddwyd y dewis iddynt fynychu sesiwn addysgol ar unwaith gyda gwasanaethau achub De Cymru neu dderbyn cosb benodedig. Ar hyn o bryd, dirwy o £100 ar unwaith am drosedd gwregys diogelwch neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am drosedd gyrru'n gyflym. Stopiwyd cyfanswm o 20 o gerbydau gyda 11 o yrwyr yn dewis addysg cyflymder a 9 yn dewis addysg gwregys diogelwch. Mae ymgysylltu’n chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch ffyrdd yn eich ardal, cysylltwch â www.gosafe.org | ||
Reply to this message | ||
|
|






