|
Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi derbyn sawl adroddiad am fyrgleriaethau preswyl yn y Dyffryn, gyda'r rhan fwyaf o'r dioddefwyr ond yn darganfod bod eu heiddo wedi cael ei fyrgleru ar ôl dychwelyd o fod ar wyliau.
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i gadw'ch cartref a'ch eiddo'n ddiogel tra byddwch chi i ffwrdd:
- Cofiwch gloi'ch holl ddrysau a ffenestri.
- Os ydych chi ar wyliau ac eisiau postio unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr nad yw'ch postiadau'n gyhoeddus a mai dim ond eich ffrindiau sy'n eu gweld.
- Gadewch oleuadau ymlaen ar amserydd i wneud i'r eiddo ymddangos fel pe bai rhywun yn byw ynddo.
- Cael cymydog dibynadwy i gadw llygad ar eich eiddo neu ymunwch â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth neu Breswylwyr.
- Gofynnwch i'ch cymdogion gau'r llenni ar ôl iddi nosi ac i barcio ar eich dreif.
- Cofiwch ganslo danfoniadau papur newydd a llaeth.
|