Road Safety Operation - Marshfield Avenue, Pyle.
|
||
|
|
||
|
||
|
Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd - Marshfield Avenue, Pîl. |
||
|
Ar ddydd Gwener 2 Hydref, cynhaliodd tîm Plismona Cymdogaeth Pîl ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'r DVSA fenter Diogelwch Ffyrdd 'Op Atal' ar Marshfield Avenue yn Pîl. Mae hon yn fenter diogelwch ffyrdd ar y cyd i dargedu troseddau gyrru ac addysgu modurwyr. Cafodd unrhyw un a oedd yn cael ei fonitro a oedd yn gyrru heb wregys diogelwch eu stopio gan yr heddlu a rhoddwyd y dewis iddynt fynychu sesiwn addysgol ar unwaith gyda'r gwasanaethau Tân ac Achub neu dderbyn cosb benodedig. Bu timau hefyd yn cydweithio â'r DVSA i gynnal gwiriadau diogelwch cerbydau ac arsylwi unrhyw gerbydau oedd yn torri'r terfyn pwysau. Allan o 323 o gerbydau a welwyd rhwng 09.45 a 12.15: Stopiwyd 24 o yrwyr am beidio â gwisgo gwregys diogelwch. 2 x Adroddiad Troseddau Traffig wedi'u cyhoeddi am deiars diffygiol 1 x cerbyd wedi'i atafaelu am ddim treth Mae mentrau fel Ymgyrch Atal yn bwysig oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar atal, gan helpu pobl i gydnabod risgiau cyn i drasiedi ddigwydd. | ||
Reply to this message | ||
|
|






