|
Rydym yn ymwybodol o'r materion yn ymwneud â Ffordd Cnap Llwyd a byddwn yn cadw llygad ar yr ardal pan fydd modd. Er bod y sefyllfa'n rhwystredig, mae gorfodi'r rheolau yn erbyn gyrru cerbydau modur (ac eithrio at ddibenion mynediad) yn dasg anodd. Caniateir i gerbydau ddefnyddio'r ffordd i gyrraedd unrhyw eiddo neu fusnes, gan gynnwys y rhai ar Ffordd Castle Graig. Gallai'r rhain fod yn drigolion, ymwelwyr neu fusnesau sy'n gwneud danfoniadau i eiddo. Mae gan y ffordd ddau bwynt mynediad hefyd, sy'n ei gwneud hi'n anodd atal pob gyrrwr, siarad â nhw a gweld pam eu bod yn defnyddio'r ffordd.
Os oes gennych unrhyw ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd (dash cam) neu ddeunydd addas arall sy'n dangos gyrwyr yn defnyddio'r ffordd fel llwybr byr, dylech ei gyflwyno'n uniongyrchol i Go Safe o dan y teitl 'Operation Snap'; gellir wedyn gymryd camau gorfodi mewn perthynas â throseddau gyrru yn unig.
Cofion gorau PCSO Randell |