Not Fun For Everyone: Op Bang
|
||
|
|
||
|
||
|
Ddim yn Hwyl i Bawb: Op Bang |
||
|
Helo gan eich SCCH lleol Cerfio pwmpenni, gwisgoedd ffansi ac arddangosfeydd tân gwyllt ysblennydd; mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn aml yn uchafbwyntiau yng nghalendr y teulu. Ond gyda lleiafrif bach yn gweld digwyddiadau'r hydref fel esgus i ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, gall y cyfnod adael llawer yn ein cymunedau'n teimlo'n bryderus, yn ddychrynllyd ac yn ofnus. Gyda hynny mewn golwg, bydd Heddlu De Cymru unwaith eto yn cefnogi Ymgyrch Bang, gan helpu ein cymunedau i fwynhau'r dathliadau'n ddiogel wrth ofyn iddynt gofio nad yw Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn Hwyl i Bawb. Mae'r cyfnod yn draddodiadol yn hynod brysur i'r gwasanaethau brys; y llynedd derbyniodd Heddlu De Cymru 1,778 o alwadau am wasanaeth* ar Galan Gaeaf, Hydref 31ain, a 1,721 pellach ar Dachwedd 5ed, Noson Tân Gwyllt. O'r galwadau hynny, roedd 840 drwy'r rhif brys 999 ar Galan Gaeaf, tra bod 663 o alwadau brys wedi'u derbyn ar Noson Tân Gwyllt. Er bod y galw yn aml yn cyrraedd uchafbwynt ar y dyddiadau hynny, mae'r cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl y dyddiadau hynny hefyd yn aml yn hynod brysur, gan roi galw ychwanegol ar yr heddlu a phartneriaid. Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn y cyfnod cyn, ac yn ystod, yr dathliadau i helpu i atal a chanfod ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) ac anhrefn. Bydd timau cymdogaeth yn gweithio'n agos gyda phartneriaid awdurdodau lleol a manwerthwyr yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf, gan atgoffa pawb o'u cyfrifoldebau a rhannu deunyddiau y gellir eu harddangos mewn siopau i ddangos sut maen nhw'n unedig yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ein Cydlynwyr Cyswllt Ysgolion ac asiantaethau partner wedi bod yn brysur yn ymweld ag ysgolion ledled ardal yr heddlu i addysgu disgyblion am beryglon tân gwyllt a choelcerthi yn ogystal â chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pwy i gysylltu â nhwEr mwyn ein helpu i gadw ein llinellau’n rhydd i’r rhai sydd ein hangen fwyaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio’r dulliau cysylltu mwyaf priodol. Mae pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd yn fater i'r heddlu. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gysylltu â ni drwy'r dulliau canlynol: Sgwrs fyw: https://www.south-wales.police.uk/ 101 Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Dylid cyfeirio pryderon ynghylch sŵn, gwerthu tân gwyllt ac eitemau cysylltiedig eraill, a thaflu sbwriel/tipio anghyfreithlon at eich awdurdod lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion yma . Cadwch yn ddiogel bawb. Diolch.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







