Recruitment
|
||
|
|
||
|
||
|
Recriwtio |
||
|
Prynhawn da, Ydych chi'n chwilio am yrfa sy'n cynnig her, pwrpas, a'r cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, gallai dyfodol mewn plismona gyda Heddlu De Cymru fod ar eich cyfer chi. Mae plismona yn broffesiwn unigryw sy'n gofyn am dosturi, gwydnwch, arweinyddiaeth, ac ymrwymiad cryf i wasanaethu cymunedau. Mae ein timau'n gweithredu 24/7 ar draws tua 800 milltir sgwâr—o Abertawe a Merthyr Tudful i brifddinas Caerdydd. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac mae'r rôl yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil ac amrywiol. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer ein Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid Heddlu a bydd ceisiadau ar agor tan 24 Tachwedd 2026. Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu (PCEP) Mae'r rhaglen 2 flynedd hon wedi'i chynllunio ar gyfer ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol o leiaf dair blynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys sectorau fel: Mae'r llwybr yn rhaglen ddysgu Lefel 5, heb achrediad, sy'n cyfuno dysgu damcaniaethol a dysgu seiliedig ar waith a gyflwynir yn fewnol gan Heddlu De Cymru. Mae'r rhaglen yn para 2 flynedd ac ni fydd swyddogion yn cyflawni unrhyw gymhwyster ar ddiwedd eu cyfnod prawf er bod opsiwn i achredu ym mlwyddyn 3 os ydynt yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y ddolen hon: Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu (PCEP) Tachwedd 2026 - Swyddi Heddlu Cymru Cymorth Gweithredu Cadarnhaol Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae ein Tîm Gweithredu Cadarnhaol yn cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys: Os hoffech gael mynediad at y gefnogaeth hon, dewiswch “ydw” pan ofynnir i chi wneud hynny yn ystod eich cais. Fel arall, gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol: PositiveAction@south-wales.police.uk
| ||
Reply to this message | ||
|
|







