|
Safwch gyda ni ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn.
Ddydd Mercher, 25 Tachwedd, rydym yn cefnogi ymgyrch White Ribbon UK i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth greu cymuned fwy diogel drwy godi llais a herio ymddygiad niweidiol. Dangoswch eich cefnogaeth drwy wneud Addewid y Rhuban Gwyn – i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, peidio â'i gyfiawnhau, a pheidio â chadw'n dawel yn ei gylch. Os oes angen cymorth cyfrinachol arnoch chi, neu ar rywun rydych chi'n ei adnabod, mewn perthynas â cham-drin domestig, cysylltwch â 101, 999, Crimestoppers neu LiveFearFree. |