Chwiliwch am eich Tîm Plismona Bro lleol

Dewch o hyd i’ch Tîm Plismona Bro lleol a gallwch gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy nodi cyfeiriad stryd neu god post isod:

Llanrhymni - Llanrumney

Mae Plismona yn y Gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae ein PCSOs a'n swyddogion yn falch o fod yn rhan annatod o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Rydym am sicrhau bod ein rhaglen plismona yn y gymdogaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, a'n nod yw bod y gorau yn y wlad am ddeall ac ymateb i anghenion a blaenoriaethau pob cymuned unigol. Mae eich tîm plismona yn y gymdogaeth lleol yn cynnwys swyddogion a PCSOs wedi'u lleoli yn eich ardal sy'n weladwy ac yn hygyrch.

Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn rhan hanfodol o'n model plismona yn y gymdogaeth: cysylltu ag unigolion, sefydliadau, busnesau, ysgolion, gweithleoedd ac eraill; gweithio i ddeall eich pryderon a'ch blaenoriaethau, ymateb iddynt a mynd i'r afael â nhw; a rhoi mesurau ar waith i atal problemau rhag gwaethygu – neu ddigwydd yn y lle cyntaf.

Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddod o hyd i atebion hirdymor i broblemau lleol.

Sylwch nad yw'r gwasanaeth hwn ar gyfer riportio troseddau neu ddigwyddiadau - i wneud adroddiad gwnewch hyn yma - Hafan | Heddlu De Cymru (de-cymru.police.uk) neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Tîm plismona cymdogaeth Llanisien a Thredelerch / Llanishen & Rumney Neighbourhood Policing Team

Callum Baker (South Wales Police, PCSO, Rumney NPT)

Callum Baker

SCCH

07584 883417

Bethan Belotti (South Wales Police, PCSO, Rumney NPT)

Bethan Belotti

SCCH

07584 771218

Viki Gramza (South Wales Police, PCSO, Rumney NPT)

Viki Gramza

SCCH

07484 939547

Tom Jones (South Wales Police, PCSO, Rumney NPT)

Tom Jones

SCCH

07977 570969

Patric Rogers (South Wales Police, Police Constable, Rumney NPT)

Patric Rogers

07813 405424

Elliott Williams (South Wales Police, PC, Rumney NPT)

Elliott Williams

07974 255197

Materion Blaenoriaeth Lleol

Blaenoriaeth Camau a gymerwyd

Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig

Cyhoeddi 11/09/2026

Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.

Gweithredu 11/09/2026

Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig

Cyhoeddi 11/06/2026

Mae Ymgyrch Tellima wedi parhau yn yr ardal i dargedu achosion o ddelio cyffuriau a’r ymddygiad sy’n gysylltiedig â hynny yn aml iawn, sef e-feiciau/ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddau treisgar. Yn rhan o'r ymgyrch hon, mae swyddogion mewn lifrai a dillad plaen yn cynnal patrolau yn yr ardal, ynghyd â gweithgarwch gan adrannau arbenigol.

• Atafaelwyd 40 o e-feiciau anghyfreithlon. Bydd pob un yn ymuno â'r ciw i gael eu dinistrio a'u tynnu oddi ar y strydoedd.

• Arestiwyd 7 o bobl am droseddau cyflenwi cyffuriau ac fe atafaelwyd 15 ffôn symudol, cyllell glo, machete ac arfau ymosodol eraill.

• Atafaelwyd dros 6kg o ganabis, 34 pecyn o grac cocên, 243 o duniau ocsid nitraidd a mwy na £10,000.

• Cafodd menyw yr oedd yr heddlu yn gwybod ei bod yn gysylltiedig â gweithgarwch cyffuriau, y mae ei chartref wedi bod yn destun sawl gwarant cyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf, ei throi allan o'i chartref.

• Arweiniodd ymgyrch ar y cyd â swyddogion Safonau Masnach at atafaelu nifer mawr o sigaréts anghyfreithlon, danteithion gwm Dosbarth B a sawl fêp anghyfreithlon o safleoedd masnachol.

• Rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol i droseddwr mynych. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr cyson yn aml, a’u bwriad yw atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion a gwaharddiadau rhag mynd i ardaloedd diffiniedig. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.

• Darganfuwyd cnwd canabis yn y camau cychwynnol. Cafodd y cnwd ei chwalu a'i ddinistrio.

• Cyflwynwyd hysbysiad troi allan i breswylwyr mewn cyfeiriad y gwyddom ei fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau yn yr ardal.

• Daethpwyd o hyd i ddau feic cwad a sgrialwr bach wedi’u dwyn mewn garej.

Gweithredu 11/09/2026

Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig

Cyhoeddi 10/03/2026

- Wrth i swyddogion gynnal patrolau yn yr ardal ar gyfer Ymgyrch Tellima, gwelwyd dyn yn reidio e-feic mewn man ble mae delio cyffuriau’n broblem. Ar ôl i swyddogion gyflwyno eu hunain iddo, ceisiodd y dyn ddianc rhagddynt cyn cael ei ddal. Wrth chwilio'r dyn, daeth swyddogion o hyd i 14 parsel o ganabis, dros £100 mewn arian parod, a dau ffôn symudol. Daethpwyd o hyd i 184g o ganabis hefyd yn dilyn chwiliad o gyfeiriad. Mae'r dyn wedi cael ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd yr e-feic hefyd.

- Cyflawnwyd chwiliad gwarant cyffuriau a reolir yn ardal Llanrhymni. Yn ystod y chwiliad canfuwyd 65g o ganabis a geriach delio cyffuriau. Atafaelwyd cyllell fach ddu Rambo hefyd. Cafodd y dyn ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B ac arf ymosodol yn ei feddiant. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'r ymchwiliad barhau.

- Tra oeddent ar batrôl yn yr ardal, gwelodd swyddogion ddyn yn reidio beic oddi ar y ffordd. Ceisiodd y dyn ffoi o'r lleoliad, ond methodd â gwneud hynny. Ar ôl cael ei ddal gan swyddogion, canfuwyd bod gan y dyn 18 oed dri ffôn symudol, 31 parsel o grac cocên a 4 bag o ganabis yn ei feddiant. Mae wedi cael ei gyhuddo o fod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a bydd rhaid iddo ymddangos gerbron y llys.
Yn ogystal â'r cyffuriau, atafaelwyd beic oddi ar y ffordd, e-feic anghyfreithlon ac e-sgwter hefyd.

- Mae 2 troseddwr mynych wedi cael eu harestio a'u cadw yn y ddalfa. Rhoddwyd gorchymyn Ymddygiad Troseddol i un ohonynt, ac mae cais am orchymyn Ymddygiad Troseddol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y llall. Defnyddir Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn erbyn troseddwyr parhaus yn aml, gyda’r bwriad o atal unigolion rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys gofynion ac maent yn atal unigolion rhag mynd i ardaloedd penodol. Mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn drosedd.

Gweithredu 10/06/2026

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cyhoeddi 10/12/2025

We have carried out high-visibility patrols in identified areas a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gweithredu 10/03/2026

Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau

Cyhoeddi 10/12/2025

Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth.

- Yn dilyn patrolau rhagweithiol yn yr ardal, mae dyn 18 oed wedi'i arestio am fod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Atafaelwyd 15g o ganabis ac e-feic.

- Yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn ardal Llanrhymni, mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio am ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin. Yn ystod chwiliad o'i gyfeiriad, daethpwyd o hyd i dros £5000 mewn arian parod ynghyd â nifer o ffonau symudol a pharaffernalia a oedd ynghlwm â delio cyffuriau. Mae'r dyn wedi cael ei gyhuddo ac yn cael ei gadw yn y ddalfa am droseddau cyffuriau.

Gweithredu 10/03/2026

Beiciau modur oddi 

Cyhoeddi 10/12/2025

Rydym wedi patrolio mannau problemus ac wedi cynnal ymgyrchoedd i dargedu troseddwyr. Mae 30 o feiciau oddi ar y ffordd (gan gynnwys sgwteri trydan) wedi cael eu hatafaelu a byddant yn ymuno â'r ciw i gael eu malu a'u dinistrio, gan eu symud yn barhaol oddi ar strydoedd Llanrhymni.

Gweithredu 10/03/2026

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cyhoeddi 01/09/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gweithredu 10/12/2025

Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau

Cyhoeddi 01/09/2025

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio am droseddau cyffuriau yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn ardal Llanrhymni. Yn ystod yr arestiad, canfuwyd bod y dyn ym meddiant crac cocên, heroin ac arian parod. Mae wedi cael ei gyhuddo o gyfanswm o 4 trosedd, pob un yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau, ac wedi'i gadw yn y ddalfa tan y dedfrydu fis nesaf.

Gweithredu 10/12/2025

Beiciau modur oddi

Cyhoeddi 01/09/2025

Cynhaliwyd ymgyrch bartneriaeth lwyddiannus arall rhwng timau plismona yn y gymdogaeth a thîm oddi ar y ffordd Cyngor Caerdydd. Nod Ymgyrch Green Horizon yw mynd i'r afael â'r defnydd o feiciau/sgwteri anghyfreithlon mewn mannau gwyrdd a phriffyrdd ledled Caerdydd.

Gweithredu 10/12/2025

Defnyddio cyffuriau a delio cyffuriau

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi patrolio mannau problemus am weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac wedi casglu cudd-wybodaeth a rydym wedi cynnal ymgyrchoedd mewn dillad plaen i dargedu troseddwyr. Mae 5 arestiad wedi'u gwneud am droseddau cyffuriau ac 1 gwarant cyffuriau wedi'i weithredu.

Gweithredu 01/09/2025

Beiciau modur oddi

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi patrolio mannau problemus ac wedi cynnal ymgyrchoedd i dargedu troseddwyr. Mae 18 o feiciau oddi ar y ffordd (gan gynnwys sgwteri trydan) wedi cael eu hatafaelu a byddant yn ymuno â'r ciw i gael eu malu a'u dinistrio, gan eu symud yn barhaol oddi ar strydoedd Llanrhymni.

Gweithredu 01/09/2025

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Cyhoeddi 17/06/2025

Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a gweithio gyda chynghorau lleol a darparwyr tai i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae 2 o bobl wedi cael gwaharddebau tai, gydag 1 bellach wedi'i arestio am dorri'r waharddeb.

Gweithredu 01/09/2025

Diweddariadau De Cymru Diweddaraf

Message type icon

Ymwybyddiaeth, Agweddau a Phrofiad o Droseddau Casineb yng Nghymru

Helo Resident Mae Heddlu De Cymru yn rhannu'r neges hon ar ran Llywodraeth Cymru. Fel rhan o Ymgyrch Casineb yn Niweidio Cymru Llywodraeth Cymru, mae arolwg byr dienw yn cael ei gynnal i ddeall beth mae pobl ledled Cymru yn ei wybod am d...

Heddlu De Cymru
16/11/2026 15:03

Gweld Diweddariad
Message type icon

Panel Craffu Cymunedol: Mawrth 10 Tachwedd 19:00

AnnwylResident , Angen aelodau'r Panel Craffu Beth yw Panel Craffu? Mae Paneli Craffu yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd arsylwi, adolygu a herio gweithgaredd plismona go iawn mewn amgylchedd diogel a strwythuredig. Yn ystod y sesiwn, ...

Heddlu De Cymru
04/11/2026 11:27

Gweld Diweddariad
Message type icon

Cyfarfod PACT Llanrhymni: Iau 10 Rhag 17:30

Annwyl Resident, Rydyn ni'n annog y cyhoedd i roi eu barn, mewn digwyddiad yn Neuadd Llanrumney, Ffordd y Felin, CF3 4JJ ar 10/12/2026 am 17:30. Mae'r cyfarfod hwn yn rhoi cyfle i chi godi unrhyw bryderon ac i gael gwybod beth rydyn ni'n ei wneud...

Heddlu De Cymru
30/10/2026 10:50

Gweld Diweddariad
Message type icon

Arestio 11 o bobl yn dilyn gwarantau sy'n gysylltiedig â defnyddio beiciau'n anghyfreithlon ledled ardal Heddlu De Cymru

Shwmae Resident Gweithredodd swyddogion o Heddlu De Cymru gyfres o warantau yn dilyn adroddiadau bod pobl yn defnyddio beiciau mewn ffordd anghyfreithlon. Mae'r gwarantau'n rhan o Ymgyrch Grebe sy'n canolbwyntio ar feiciau sy'n cael eu gyrr...

Heddlu De Cymru
28/10/2026 10:15

Gweld Diweddariad
Message type icon

Digwyddiad - Noson agored recriwtio Tachwedd 2026

Ymunwch â ni a dewch yn rhan o dîm Heddlu De Cymru Eisiau gyrfa lle mae gan bob dydd heriau newydd, cyfleoedd i helpu eraill, gwneud gwahaniaeth go iawn? Ymunwch â ni a siaradwch â'n timau i ddysgu am gyfleoedd sy'n aros amdanoch chi. P'...

Heddlu De Cymru
10/10/2026 12:01

Gweld Diweddariad
Message type icon

Rydym yn recriwtio

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog Cadw yn y Ddalfa? Mae Swyddogion Cadw yn y Ddalfa yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau gofal a llesiant pobl a gedwir yn y ddalfa a'u heiddo, a'u cadw'n ddiogel yn ystod y broses honno. M...

Heddlu De Cymru
08/10/2026 11:16

Gweld Diweddariad
Message type icon

Sgam Ffôn Dynwared yr Heddlu

Annwyl Resident Rydym yn ymwybodol o adroddiadau am sgam lle mae aelodau'r cyhoedd yn derbyn galwadau ffôn o rif sy'n ymddangos fel rhif cyswllt heddlu dilys. Mae twyllwyr yn defnyddio technoleg o'r enw "ffugio rhifau" ...

Heddlu De Cymru
02/10/2026 15:46

Gweld Diweddariad
Message type icon

Sut rydym yn mynd i'r afael â beiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon

Shwmae Resident Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau – gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon. Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechio...

Heddlu De Cymru
29/09/2026 10:53

Gweld Diweddariad

Cliciwch yma i weld mwy o ddiweddariadau

Digwyddiadau Lleol

...
Llanrumney PACT Meeting
  • Llanrumney Hall Community Trust, Ball Road, CF3 4JJ
  • 10/12/2026 17:30
  • Add to calendar